Amdanon ni
Cwmni sy'n gyfyngedig drwy warant ydy Cwmni Acen Cyf. Mae gan Acen, a sefydlwyd ym 1989 ac a ymgorfforwyd ym 1990, statws elusennol.
Nod Acen yw hyrwyddo Cymru a'r Gymraeg ac, o'r cychwyn cyntaf, buon ni'n rhoi sylw arbennig i ddysgwyr yr iaith - gartref, yn y gymuned ac yn y gwaith.
Dros y blynyddoedd mae Acen wedi datblygu a meithrin perthynas â chwmnïau, busnesau ac asiantaethau ar draws Cymru, â chyrff a sefydliadau addysg, a hefyd â maes y cyfryngau gan gynnwys S4C.
Drwy ei amryfal wasanaethau, mae Acen yn
- darparu hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle ledled Cymru
- darparu gwasanaeth isdeitlau Cymraeg ar gyfer S4C
- darparu gwefan dysgwyr S4C
- darparu canolfan iaith ac adnoddau ar-lein
- rhedeg tudalen i gefnogwyr ar Facebook
- cyhoeddi cylchgrawn acen mewn print ar gyfer dysgwyr
- cyhoeddi adnoddau print ac aml-gyfrwng
Fersiynau eraill / Other versions: English,

Facebook