ca4
ca3 ca4  16+

Aberdyfi
Y Bermo
Corris
Canolfan Hamdden Bro Dysynni
Glan y môr
Llanegryn
Machynlleth
Porthmadog
Tal-y-Llyn
Tal-y-Llyn
Y Trenau Bach
Sgwrs
Yr Ardal: Corris

Pentref bach ydy Corris ond mae llawer o bethau yna e.e. Canolfan Grefftau, Canolfan y Dechnoleg Amgen, tair tafarn - Slaters Arms, Gwesty Braich Goch a Gwesty'r Dulais Valley - Amgueddfa Reilffordd, rheilfordd fach, caffi, hostel ieuenctid, eglwys a dau gapel, garej, Institiwt efo ystafell snwcer, parc chalet, ysgol gynradd a chae pêl-droed.

Yn y mynyddoedd yn y gaeaf, mae ralïo, fel y Network Q, yr R.A.C. a Bulldog. Ac yn yr haf mae gwaith yn y goedwig.

Wrth ochr y ffordd fawr, mae canolfan grefftau, sy'n gwerthu pethau sy wedi cael eu gwneud yn y siopau. Wrth ymyl Corris mae Canolfan y Dechnoleg Amgen. Dyna lle maen nhw'n gwneud trydan efo dwr, gwynt ac ynni'r haul.

Hoffwn i gael mwy o bethau i wneud, fel cwrs beicio, cwrs-golff bach neu dîm pêl-droed o dan 16.

Phillip James