Yr Ardal: Porthmadog
Mae Porthmadog yn dref dwristaidd. Mae llawer o dwristiaid yn dod i Borthmadog bob blwyddyn. Mae pobol yn dod yn ystod
gwyliau'r ysgol, yn yr haf am eu gwyliau ac ym mis Rhagfyr am y Nadolig. Mae llawer o westai a thai gwely a brecwast ym
Mhorthmadog. Mae llawer o henoed yn dod i Borthmadog am wyliau tawel. Mae Porthmadog yn dref dawel.
Portmeirion yw'r peth mawr yn y byd twristaidd yng Ngogledd Cymru. Mae Portmeirion yn bentref bach tu allan i Borthmadog.
Mae llawer o dai Eidalaidd yn y pentref. Mae pobol yn cerdded o gwmpas y pentref ac yn edrych ar y tai tlws iawn. Mae
gerddi hardd iawn hefyd ym Mhortmeirion. Mae caffi bach a siop crochendy Portmeirion yn y pentref bach. Mae llawer o bobol
yn mynd i Bortmeirion i weld y tai Eidalaidd, i gerdded yn y gerddi, i brynu crochenwaith ac i gael amser da.