Mae gan Fwrdd yr Ymddiriedolwr gyfrifoldeb ffurfiol dros benodi a hyfforddi pob aelod newydd o’r Bwrdd a’r Swyddogion Gweithredol.
Mae’r Ymddiriedolwr yn cyfarfod â’r Swyddogion Gweithredol (Y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog Gweithredol) sawl gwaith y flwyddyn i dderbyn adroddiadau ar weithgarwch yr elusen, adroddiadau ariannol ac amlinelliad o gynlluniau’r dyfodol. Lle bo angen a chytundeb, caiff y cynlluniau eu haddasu. Y Swyddogion Gweithredol sy’n gyfrifol am weithgarwch yr elusen o ddydd i ddydd. Ceisir cyngor yr Ymddiriedolwyr pryd bynnag y bo angen.
Wrth osod amcanion a chynllunio gweithgarwch bydd yr Ymddiriedolwr a’r Swyddogion Gweithredol yn dwys ystyried cyngor cyffredinol y Comisiwn Elusennau ar les cyhoeddus a hefyd gyngor atodol y Comisiwn ar les cyhoeddus parthed hyrwyddo addysg a chodi ffïoedd.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn adolygu’r risgiau y gall yr elusen eu hwynebu ac yn gosod rheoliadau priodol i ddarparu sicrwydd rhesymol yn erbyn twyll ac amryfusedd.
Mae Bwrdd Acen yn cynnwys:
John Albert Evans (Cadeirydd)
Euryn Ogwen Williams (Ysgrifennydd)
Emyr Byron Hughes
Gwenda Griffith
Elfed Roberts




