Celtiaid Heddiw

Argraffu
PDF

ieithoeddceltaiddcymHeddiw, rydyn ni’n defnyddio’r term ‘Celtiaid’ am bobl sy’n byw mewn chwe “gwlad” neu ardal lle mae pobl yn dal i siarad iaith Geltaidd.

Tua 2000 o flynyddoedd yn ôl roedd pobl Prydain ac Iwerddon yn siarad dwy dafodiaith Geltaidd – Goedeleg yn Iwerddon a Brythoneg ym Mhrydain. Erbyn tua’r pumed ganrif roedd y tafodieithoedd yna wedi dechrau newid yn dafodieithoedd newydd...

Datblygodd Goedeleg yn Gaeleg; datblygodd yr iaith honno yn dair chwaer iaith – Gwyddeleg (Gaelige) yn Iwerddon, Gaeleg (Gàidhlig) yr Alban a Manaweg (Gaelg) yn Ynys Manaw. 

Datblygodd Brythoneg yn ddwy dafodiaith. Yng Nghymru a’r Hen Ogledd (gogledd Lloegr a de yr Alban) Cymraeg oedd y dafodiaith newydd. Mae’r farddoniaeth Gymraeg gynharaf yn dod o’r Hen Ogledd.

Yn ne-orllewin Prydain, Cernyweg (Kernowek) oedd y dafodiaith newydd. Yn ddiweddarach, Aeth pobl o Gernyw i Lydaw yng ngogledd-orllewin Ffrainc lle datblygodd yr iaith yn dafodiaith arall o’r enw Llydaweg (Brezonek). 

Yr iaith Gymraeg ydy’r iaith Geltaidd gryfaf erbyn heddiw; hi a’r Saesneg ydy dwy iaith swyddogol Cymru.

Geirfa: Celtiaid Heddiw

Ynys Manaw – Isle of Man
Cernyw
– Cornwall
Llydaw
– Brittany
datblygu
– to develop
Gaeleg
– Gaelic
Gwyddeleg
– Irish
Manaweg
– Manx
barddoniaeth
– poetry
cynharaf
– earliest
Cernyweg
– Cornish
Llydaweg – Breton
cryfaf
– strongest
swyddogol
– official
lleiafrifol
– minority

Llyfrau i Ddysgwyr

Eisiau Gwyliau yng Nghymru?