Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (19G) roedd tua miliwn o bobl yn byw yng Nghymru ac roedd tua 800,000 neu 80% yn siarad Cymraeg.
Daeth y Chwyldro Diwydiannol â llawer o newidiadau i Gymru. Un o’r newidiadau mawr oedd y symud mawr o gefn gwlad i’r ardaloedd diwydiannol newydd. Daeth llawer iawn o bobl i Gymru o'r tu allan hefyd i fyw ac i weithio yn yr ardaloedd diwydiannol newydd.
Erbyn 1901 roedd tua 2 filiwn o bobl yn byw yng Nghymru; roedd tua 1,000,000 neu 50% o’r bobl yn gallu siarad Cymraeg. Roedd y nifer yn fwy ond y ganran yn llai.
Rhwng 1901 a 2001 cododd poblogaeth Cymru i bron i dair miliwn. Daeth Saesneg yn iaith bob dydd i bawb drwy’r cyfryngau, diwylliant poblogaidd, addysg, gwaith a llywodraeth leol a chanolog. Erbyn 1991 roedd llai na 19% o bobl Cymru yn gallu siarad Cymraeg.
Ond erbyn 2001 roedd canran siaradwyr Cymraeg wedi dechrau codi eto i 20.8% (582,000 o bobl). Roedd canran siaradwyr Cymraeg ymhlith plant a phobl ifanc yn llawer uwch, ffaith oedd yn adlewyrchu statws newydd yr iaith ym myd addysg.




