Y Cyfnod Canol

Argraffu
PDF

mabinogiCymraeg Canol ydy’r cyfnod rhwng tua 1100 a 1536.

Mae’r cyfnod yma yn cynnwys oes aur Tywysogion Cymru lle roedd y Gymraeg yn iaith gweinyddu a iaith bob dydd a chyfnod yr Uchelwyr – y cyfnod ar ôl lladd Llywelyn ap Gruffudd yn 1282.

"Cyfraith Hywel" ydy'r enw ar gyfreithiau Cymru. Hywel ap Cadell neu Hywel Dda – Brenin Cymru (942-950) – oedd y dyn wnaeth ddod â'r cyfreithiau at ei gilydd. Roedd fersiwn Cymraeg a Lladin o'r cyfreithiau. Mae'r copi cynharaf o'r fersiwn Cymraeg mewn llawysgrif o'r drydedd ganrif ar ddeg [13G], Llawysgrif Peniarth 28.  

O'r cyfnod yma hefyd mae llawysgrifau sy'n cynnwys Llyfr Gwyn Rhydderch, Llyfr Coch Hergest a Llyfr Du Caerfyrddin. Yn y llyfrau yma mae llawer o’n barddoniaeth gynnar a chwedlau fel ‘Pedeir Keinc y Mabinogi’ i’w gweld.

Yn hanes barddoniaeth Gymraeg hwn oedd cyfnod Beirdd y Tywysogion – beirdd fel Cynddelw Brydydd Mawr (fl. 1155 – 1195) a  Gruffudd ab yr Ynad Coch (fl. 1277 – 1282) – a Beirdd yr Uchelwyr – pobl fel  Dafydd ap Gwilym (c.1315 –1370) a Iolo Goch (c.1325 – 1398).

Fel yn y cyfnod cynnar, roedd gan yr Eglwys Gristnogol rôl bwysig yn hanes yr iaith. Roedd yr urddau crefyddol newydd, yn enwedig yr abatai Sistersaidd, yn bwysig iawn; yn yr abatai yma roedd pobl yn cofnodi ac yn copio barddoniaeth a rhyddiaith y cyfnod.

Geirfa: Y Cyfnod Canol

cynnwys – to include
cyfraith/cyfreithiau – law/-s
Lladin – Latin
oes aur – golden age
tywysogion – princes
uchelwyr – gentry
llawysgrif/-au – manuscript/-s
chwedlau – legends; tales
urdd/-au – order/-s
crefyddol – religious
abaty/abatai – abbey/-s

Llyfrau i Ddysgwyr

Eisiau Gwyliau yng Nghymru?