Mae’r cyfnod modern yn para o tua 1536 tan ganol yr ugeinfed ganrif [20G].
Ym 1536 a 1542 pasiodd Harri VIII ddeddfau oedd yn gwneud Cymru yn rhan o Loegr a chollodd y Gymraeg ei statws a’i rôl fel iaith gweinyddu. O’r amser yma ymlaen dechreuodd yr uchelwyr fynd yn fwy Saesneg eu iaith a Seisnig eu hagwedd. Roedd y bobl gyffredin – y werin – yn dal yn Gymraeg eu hiaith tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ym 1588 cafodd y Beibl – 'Beibl William Morgan' – ei gyhoeddi yn Gymraeg am y tro cyntaf a daeth iaith y Beibl yn safon ar gyfer Cymraeg ysgrifenedig tan yr ugeinfed ganrif. Roedd dylanwad Cristnogaeth, a’r eglwysi ymneilltuol yn enwedig, yn ffactor pwysig iawn i gadw’r iaith Gymraeg yn fyw fel iaith bob dydd.
Dechreuodd y Cymry ddod yn bobl lythrennog yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg [19G]; o 1870 roedd rhaid i blant 5-10 oed fynd i'r ysgol. Ond, am y rhan fwyaf o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, doedd y Gymraeg ddim yn rhan o gwricwlwm yr ysgol. Yn wir, roedd rhai ysgolion yn defnyddio’r ‘Welsh Not’ fel ffordd o rwystro plant rhag siarad y Gymraeg yn yr ysgol.
I’r ysgolion, ac i lawer o rieni hefyd, Saesneg oedd iaith dod ymlaen yn y byd. Y Saesneg oedd iaith gwaith, busnes a gweinyddu; hi hefyd oedd iaith yr Ymerodraeth Fawr Brydeinig.
Felly, er bod nifer fawr yn dal i siarad Cymraeg y tu allan i’r ysgol, doedden nhw ddim yn cael eu dysgu i ddarllen ac ysgrifennu’r iaith – os nad oedden nhw’n aelodau o gapel neu eglwys Gymraeg neu’n perthyn i gymdeithas fel yr Urdd. Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol a nifer fawr o eisteddfodau bach yn help mawr i gadw'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg yn fyw.




