Bev Fox dw i.
Dw i’n dod o Drefforest ger Abertawe yn wreiddiol ond yna symudon ni i Gaerdydd gyda fy nheulu i. Es i i Ysgol Howells, Llandaf. Ar ôl ysgol, symudais i i Llundain ac astudiais i Hanes ac Addysg. Mwynheuais i’r brifysgol a byw yn Llundain.
Priodais i â Simon – Sais oedd yn chwarae rygbi! Ond dyn ni’n hapus iawn yn arbennig achos ei fod e’n dysgu Cymraeg hefyd.
Wyth mlynedd yn ôl, teithion ni o gwmpas y byd – Seland Newydd, Awstralia, De America ac ar daith i Antarctica.
Hefyd, aethon ni i Batagonia, Yr Ariannin. Ymwelon ni â’r Cymreig yno – Esquel, Trelew, Gaiman a Porth Madryn. Roedd yn ddiddorol i weld ein diwylliant a’n treftadaeth yno. Canais i ‘Calon Lan’ mewn tŷ te gyda’r perchennog Cymreig ond do’n i ddim yn gallu siarad Cymraeg ag unrhyw un. Roedd yn ofnadwy! Un diwrnod, fy mreuddwyd i yw i ddychwelyd yno a siarad Cymraeg.
Symudon ni yn ôl i Gaerdydd a nawr, mae plant gyda ni sy’n chwech oed a phedair oed, Imogen a Honor. Mae ci bach gyda ni hefyd, Waffles! Mae ein dwy ferch yn mynd i’r ysgol gyfrwng Cymraeg, Ysgol Y Berllan Deg. Dw i’n hoffi gwrando ar fy mhlant yn siarad Cymraeg.
Yn 2010, rhedais i yn Marathon Llundain – roedd yn anodd ond ardderchog. Nawr, fy mhrif ddiddordebau ydy canu yng Nghôr y Gleision a dysgu Cymraeg. Mae’n haws ar y coesau ond yn fwy anodd ar yr ymennydd!
Ers mis Hydref 2010, dw i’n dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, bob bore dydd Llun a dydd Iau. Dw i’n dwlu ar ddysgu Cymraeg. Sefais i’r arholiad Mynediad a’i basio – hwre!! Dros yr Haf, darllenais i ddau lyfr Cymraeg – ‘E-Ffrindiau’ gan Lois Arnold a ‘Pergyl yn Sbaen’ gan Bob Eynon. Roedd hyn yn ddefnyddiol ar gyfer ymarfer ac ymestyn fy ngeirfa. Hefyd, ro’n i’n ymarfer gyda fy nwy ferch i a fy ffrindiau i – mae nhw’n amyneddgar iawn gyda fi.
Nesaf, dw i’n dechrau cwrs Sylfaen – dymunwch bob lwc i mi...




