Clare Williams dw i.
Ces i fy ngeni yn yr hen ysbyty yng Nghlun, yn Shropshire. Ces i fy ngeni ym Mis Chwefor ym 1973. Merch Doris a David dw i.
Dw i’n briod. Gwraig Tony dw i. Priodon ni saith mlynedd yn ol. Mae un ferch Nia ac un mab Morgan gyda ni.
Dw i’n byw yng Nghaerdydd ers chwech blynedd ar ddeg. Dw i’n dod o’r Drenewydd yn wreiddiol. Ron i’n byw ar Fferm yr Hollies pan o’n i’n blentyn.
Cwrddais i a Tony ym Mhrifysgol Aberystwyth, cwrddon ni trwy rygbi. Ro’n i’n chwarae rygbi. Chwaraeais i am wyth mlynedd. Dw i wedi chwarae i Brifysgolion Cymru. Sgoriais i gais yn erbyn Yr Alban. R’on i’n chwarae blaenasgellwr, rhif saith fel arfer.
Dw i’n rhedeg nawr, achos dw i’n rhy hen i chwarae rygbi! Rhedais i yr hanner marathon yng Nghaerdydd mis Hydref diwethaf. Dw i’n hyfforddi nawr am marathon Brighton! Bydda i’n rhedeg am ‘Breast Cancer Care’ achos mae e’n glefyd cyffredin yn fy nheulu i. Os hoffech chi fy noddi cliciwch ar y linc yma.
Dw i wedi dysgu Cymraeg ers llawer o flynyddoedd. Mae e’n brofiad da! Roedd fy nhiwtor yn ffantastig ond mae e’n waith caled. Mae Nia a Morgan yn mynd i ysgol Y Berllan Deg. Hoffwn i gadw i ddysgu Cymraeg felly dw i’n gallu helpu Nia a Morgan gyda gwaith cartref. Dw i’n meddwl fod e’n bwysig i rhieni i siarad Cymraeg pan fydd y plant yn mynd i ysgol Gymraeg.
Dw wedi pasio arholiadau Mynediad, Sylfaen a Canolradd a dw i wedi stopio cael gwersi gyda Ann fy nhiwtor. Ond i helpu fi yn ymarfer siarad dw i’n helpu yn Ysgol Y Berllan Deg. Mae’r plant yn hyfryd ac yn helpu fi llawer. Ers i fi helpu yn yr Ysgol, mae Nia yn siarad Cymraeg a fi yn y tŷ, ffantastig!




