Cwrs Llanelli 2010

Argraffu
PDF

llanelli

Dyn ni’n gweithio i Ganolfan Byd Gwaith. Dyn ni’n dysgu Cymraeg yn y swyddfa gydag Acen ers dwy flynedd. Patrick ydy ein tiwtor ac mae e’n amyneddgar iawn.

Mae’r Gyfraith yn dweud bod rhaid i ni gynnig gwasanaeth Cymraeg. Gobeithio byddwn ni’n gallu siarad Cymraeg â’r cwsmeriaid yn fuan. Mae un o’r dosbarth wedi gwneud cyfweliadau byr yn barod!

Dim ond dwy awr o wersi dyn ni’n cael bob wythnos, felly dyn ni wedi dod i i Lanelli ar gwrs preswyl am wythnos. Dyn ni’n gwneud llawer o adolygu achos mae arholiad gyda ni yn yr haf. Mae’n dda cael bod i ffwrdd o’r swyddfa i siarad Cymraeg drwy’r amser.

Dyn ni wedi bod i’r dafarn i chwarae pŵl a siarad Cymraeg â’r bobl leol. Cawson ni groeso cynnes – ro’n nhw’n falch iawn ein bod ni’n dysgu Cymraeg a dysgon nhw ‘Calon Lân’ i ni.