
Mae'r Cylch wedi bod yn cwrdd yn wythnosol yn Derby ers tua 5 mlynedd. Cyn hynny roedd dosbarth WEA, ond daeth y dosbarth i ben achos doedd dim digon o bobl yn ôl y WEA!
Ond roedd rhai o'r dysgwyr eisiau dal ati, felly penderfynon ni gwrdd yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr bob bore dydd Mawrth. Erbyn hyn mae 5-8 o bobl yno bob wythnos ond dyn ni hefyd yn trefnu gweithdy bob mis ar fore Sadwrn a hefyd dyn ni'n cynnal Ysgol Undydd Cymraeg bob Mis Hydref. Eleni daeth dros 30 o bobl i’r Ysgol Undydd gan gynnwys nifer o Gymry Cymraeg lleol yn gwirfoddoli.
Dyn ni'n gobeithio trefnu teithiau cerdded bob tymor a hefyd dyn ni'n cyhoeddi ein papur bro ‘Llais Y Dderwent'. Felly mae'r iaith Gymraeg yn cael ei chlywed yn aml yn Derby. Mae manylion ein gweithgareddau i gyd ar ein safle gwe - www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com a hefyd ar ein grŵp Facebook ni sef 'Menter Iaith Lloegr - Dysgu’r Gymraeg yn Lloegr'.
Felly os dych chi’n dysgu yn Lloegr mae croeso cynnes i chi bob bore dydd Mawrth yn Derby!




