
Mae llawer o bobl yn mynd i ddosbarthiadau dysgu Cymraeg gydag Acen yn swyddfeydd y Llywodraeth yn Parc Cathays, Caerdydd. A bob wythnos mae nifer o’r dysgwyr yma yn dod at ei gilydd y tu allan i’r dosbarth i ymarfer eu Cymraeg.
Bob amser cinio dydd Llun a dydd Mawrth mae sesiwn dysgu anffurfiol. Mae croeso cynnes i bawb sy’n gweithio i’r Llywodraeth ddod i’r sesiynau yma. Dych chi’n gallu gofyn cwestiynau a dysgu mwy am yr iaith Gymraeg.
Bob dydd Mercher mae Clwb Ffilmiau. Dyn ni’n gwylio cyfresi poblogaidd S4C ar fideo ac yn siarad am y rhaglenni. Dyn ni wedi gwylio cyfresi fel ‘Popeth yn Gymraeg’ a ‘Cefn Gwlad’.
Bob dydd Iau a dydd Gwener rhwng deg ac un ar ddeg o’r gloch y bore dyn ni’n mynd i sesiwn Coffi a Chlonc. Yn y sesiwn Coffi a Chlonc dyn ni’n siarad am newyddion y dydd ac wedyn dyn ni’n cael cwis geirfa. Mae’n ffordd dda o ddysgu Cymraeg ac i gwrdd â dysgwyr eraill.




