
Shw'mae, ffrindiau! Francesca dw i a dw i'n gweithio fel isdeitlydd ar raglenni S4C. Mae fy nheulu i'n dod o'r Eidal ac o Malta ond ces i fy ngeni yng Nghymru.
Pan o'n i'n ferch fach ro'n i eisiau dysgu Cymraeg, dim Eidaleg – roedd hi'n sioc fawr i'r teulu! Wedyn, pan o'n i 18 oed, es i i Brifysgol Llambed i astudio’r Gymraeg. Yn Llambed gwnes i gwrs ar isdeitlo ac, ar ôl gadael y brifysgol, dechreuais i weithio fel isdeitlydd yng Nghaerdydd.
Cerddoriaeth ydy fy hobi i ac, yn fy amser sbâr, dw i'n mwynhau chwarae mewn bandiau lleol. Dw i'n chwarae'r trwmped mewn bandiau o'r enw 'Wonderbrass', 'Inc.a' a 'The School'. Yn 2010 aethon ni ar daith i'r Almaen a'r Eidal, ond do’n i ddim yn gallu siarad Eidaleg yn yr Eidal. Mae'n amser efallai i wrando ar mam-gu o'r diwedd a dechrau dysgu Eidaleg!




