Iestyn ap Rhobert

Argraffu
PDF

iestyn_ap_rhobert

Helo 'na! Fy enw i ydy Iestyn ap Rhobert a dw i'n dod o bentref Llangadog yn Sir Gaerfyrddin. Dw i'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn ac yn gweithio gyda dysgwyr yn y de-ddwyrain.

Fy hobi i ydy cerddoriaeth a dw i'n chwarae'r bibgod Gymreig. Ro’n nhw'n chwarae'r bibgod yng Nghymru yn y ddegfed ganrif, felly mae'n offeryn hen iawn. Mae'r bibgod Gymreig fel pibau'r Alban ond ddim mor swnllyd! Dych chi'n gallu chwarae'r bibgod gyda'r gitâr, y delyn a'r ffidil. Dw i'n hoff o chwarae alawon fel 'Cwm Rhondda' ac 'Ar Lan y Môr'.

Dyn o Bencader, Sir Gaerfyrddin sy wedi gwneud y bibgod dw i'n ei chwarae. Mae'r pibau o bren ceirios gyda chorn carw a bag lledr. Os dych chi eisiau clywed y bibgod Gymreig ewch i Sain Ffagan, Yr Eisteddfod Genedlaethol neu Tŷ Siamas, Dolgellau. Maen nhw hefyd yn chwarae'r bibgod yn ystod Gorymdaith Gŵyl Dewi yng Nghaerdydd bob blwyddyn ar Fawrth 1af.