Jo dw’i. Dw i’n byw yng Nghaerdydd gyda fy ngŵr a fy mhlant a dw i’n dod o Loegr yn wreiddiol. Ges i fy magu ger Bryste a symudais i i Gaerdydd yn 2003 gyda fy ngwr. Dechreuais i ddysgu Cymraeg ar ôl i fi gael fy mhlentyn cyntaf .
Mae dwy ferch gyda fi. Mae Elin yn 4 oed a Megan yn 1 oed. Cyn i Elin ddechrau yr ysgol Gymraeg meddyliais i “dw i eisiau dysgu Cymraeg achos dw i eisiau helpu gyda'i gwaith cartref a dw i eisiau deall y sioe Nadolig yn yr ysgol.” Ers i fi ddechrau dysgu dw i wedi sylweddoli mod i’n hoffi teimlo’n rhan o ddiwylliant Cymreig hefyd.
Dw i’n dysgu yn y dosbarth nos gyda Cyngor Caerdydd. Dw i wedi mynd am ddwy awr yr wythnos ers Mis Medi 2008. Dw i’n meddwl bod e’n hawdd anghofio popeth dros y haf achos mae’r gwyliau yn hir iawn. Eleni dw i wedi bod yn ymarfer gyda “Say Something in Welsh” dros y rhyngrwyd a mae fy Nghymraeg wedi gwella – mae’r wefan yn fendigedig a dw i’n ei gymeradwyo fe i bawb. Dw i newydd ddechrau mynd i glwb darllen gyda ‘r Prifysgol. Dyn ni’n darllen “Modrybedd Afradlon” gan Mihangel Morgan. Dw i’n gobeithio siarad Cymraeg yn rhugl un diwrnod, ond bydda i’n cymryd llawer o amser.
Ar yr un llaw mae’n hawdd dysgu Cymraeg yng Nghymru achos mae hi ym mhobman, ond ar y llaw arall mae pawb sy’n siarad Cymraeg yn siarad Saesneg hefyd a pan mae’n anodd siarad yn Gymraeg mae’n rhy hawdd siarad yn Saesneg.
Mae llawer o ddiddordebau eraill gyda fi – dw i’n hoffi cerddoriaeth newydd a fe es i i “Reading Festival” eleni a llynedd – doedd dim plant gyda ni a ro’n ni’n gallu ymlacio am newid! Dw i’n dwlu ar deithio a es i i deithio o gwmpas y byd gyda fy ngŵr i am flwyddyn o fis Mehefin 2002 tan fis Mehefin 2003. Aethon ni i 19 gwlad a dw i’n edrych ymlaen i fynd nol i Batagonia a siarad Cymraeg gyda’r bobl yna.




