Richie Walters

Argraffu
PDF

richie_waltersRichie Waters dw i a ges i fy geni a fy magu yng Nghwmgwrach, pentref bach yng Nghwm Nedd. Priodais i ferch o Gwmgwrach a gafodd fy mab ei eni yng Nghwmgwrach. Symudon ni i fyw yn Reading yn Lloegr a ro’n ni’n byw ‘na am bron i bedwar deg blynedd.

Pam ymddeolais i, symudon ni yn ôl i fyw yng Nghymru, a gwnes i addewid i fy hunan i ddysgu siarad Cymraeg. Ro’n i’n lwcus iawn achos roedd dosbarth nos Cymraeg yn yr ysgol dim ond pum munud o’r tŷ newydd. Dw i wedi gorffen cwrs Mynediad a Sylfaen a nawr dw i ar Cwrs Canolradd.

Does dim llawer o gyfle i siarad Cymraeg yn y tŷ, felly, i ymarfer ac i gael mwy o hyder i siarad, dw i’n trio mynd bob bore dydd Llyn i fore coffi yn y neuadd ar bwys Rhaeadr Aberdulais ger Castell-nedd. Mae llawer o pobl ‘na yn siarad Cymraeg yn rhugl a maen nhw wedi rhoi croeso cynnes i ddysgwr fel fi.

Yn ddiweddar, dechreuais i ymchwilio ar y goeden deulu. Mae pob cyfrifiad ers 1841 yn dweud bod hynafiad ar ochr fy nhad a fy mam yn dod o Dde Cymru, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Sir Forgannwg, a gallen nhw i gyd siarad Cymraeg. Rheswm arall a cymhelliad i fi weithio’n galed yn y dosbarth i ddysgu siarad Cymraeg hefyd.