
neb – no-one
hen daid – great grandfather
cwch camlas – canal boat
arholiadau – exams
cwrs cyfieithu – translation course
deall – to understand
treulio – to spend (time)
ymuno â – to join
ymarfer – to practise
pwyllgor – committee
profiad – experience
olew – oil
dyfrlliw – watercolour
ar hyn o bryd – at the moment
pobl eraill – other people
Rosemary Ralphes ydy fy enw i – ‘Ro’ i fy ffrindiau. Dw i’n dod o Kent yn wreiddiol a does neb yn y teulu yn dod o Gymru a neb yn siarad Cymraeg. Roedd hen daid Alan, fy ngŵr, yn dod o Ynys Môn ac roedd o'n siarad Cymraeg.
Ro’n i ac Alan yn byw ar gwch camlas cyn dod i fyw i Talwrn Green, pentref bach yn Sir Wrecsam. Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tua 2003. Does ’na ddim llawer o bobl yn ein pentref ni sy'n siarad Cymraeg, yn anffodus, ond dan ni’n gobeithio dechrau dosbarth Cymraeg yn y pentref.
Dw i wedi gwneud nifer o arholiadau Cymraeg a hefyd wedi gwneud cwrs cyfieithu ym Mhrifysgol Glyndŵr. Yn ystod 2011 dw i wedi bod yn gwneud cwrs i fod yn diwtor Cymraeg i Oedolion. Fel person sy wedi dysgu Cymraeg fy hun, dw i’n meddwl fy mod i’n deall problemau dysgu iaith yn dda!
Dw i'n hoff iawn o wneud popeth yn Gymraeg. Dw i'n darllen llyfrau Cymraeg a dw i'n defnyddio Facebook a Twitter yn Gymraeg hefyd. Dw i'n treulio llawer o amser yn siarad Cymraeg ar y ffôn efo ffrindiau. Dw i wedi ymuno â Merched y Wawr a Chymdeithas Owain Cyfeiliog yn Wrecsam ac maen nhw’n help i ymarfer siarad Cymraeg. Dw i'n mynd i bob sesiwn siarad yn yr ardal os dw i’n gallu.
Pan ddaeth yr Eisteddfod i Wrecsam, ro'n i'n gweithio efo Pwyllgor y Dysgwyr. Roedd o’n amser diddorol iawn ac mi wnes fwynhau gweithio efo dysgwyr eraill ym Maes D.
Yn 2001 ro’n i ar y gyfres ‘Bro’ pan ddaeth Iolo Williams a Shân Cothi i wneud rhaglen am ardal Wrecsam. Dw i’n hoff iawn o Iolo ac ro’n i’n nerfus iawn yn siarad efo fo. Ond roedd Iolo yn wych ac mi wnes i fwynhau’r profiad yn fawr.
Pan dw i ddim yn dysgu Cymraeg, dw i’n hoffi peintio lluniau. Dw i'n defnyddio paent olew a dyfrlliw. Ond, yn anffodus, does gen i ddim llawer o amser i beintio ar hyn o bryd achos dw i’n brysur yn gweithio fel tiwtor Cymraeg yn helpu pobl eraill i ddysgu’r iaith.




