Sue James

Argraffu
PDF

sue_james

Sue James dw i. Ro'n i'n gweithio i Fwrdd Croeso Cymru ond rŵan dw i'n gweithio i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn yr Adran Menter ym Mae Colwyn. Dw i'n mwynhau'r gwaith yn fawr a dw i'n gweithio efo llawer o bobl hyfryd.

Dw i wedi cael llawer o brofiadau diddorol dros y blynyddoedd. Un ohonyn nhw oedd cyfarfod â'r Tywysog Naruhito o Siapan – ei daid oedd Hirohito! Mi ddaeth o ar daith i Gymru ac mi aeth tri ohonon ni o'r swyddfa i Gastell Rhuthun i gael bwyd efo fo.

Ro'n i'n eistedd efo'r Tywysog a siaradais i efo fo. Roedd y fwydlen yn Gymraeg ac mi gawson ni hwyl yn siarad am y geiriau Cymraeg a Siapanaeg am y bwyd. Ro'n ni'n cael gwledd ganoloesol, felly roedd rhaid i ni fwyta heb gyllyll a ffyrc! Roedd hi'n noson hyfryd ac roedd o'n brofiad arbennig iawn i ferch 19 oed o Abergele.