Trefynwy

Argraffu
PDF

eira_steggles

Helo, Eira dw i a dw i’n byw yn Nhrefynwy – tref fach arbennig gyda llawer iawn o bethau diddorol ynddi hi.

Ar bwys Eglwys Santes Fair a’r castell mae Neuadd y Sir.  Maen nhw wedi bod yn adfer y lle a nawr mae hi’n edrych yn hardd iawn. Roedd rhaid i’r Siartwyr ddod yma yn 1840 i sefyll eu prawf.

Un o bobl enwog y dref ydy Sieffre o Fynwy – y dyn wnaeth ysgrifennu ‘Historia Regum Britannie’

Cafodd Harri’r 5ed ei eni yng Nghastell Trefynwy. Dych chi’n gallu gweld cerflun ohono fe y tu allan i Neuadd y Sir a brodwaith ohono fe ym Mrwydr yr Agincourt y tu mewn i’r adeilad. Gerllaw mae cerflun o arwr arall y dref – Charles Rolls – y dyn cyntaf i hedfan dros y Sianel ac yn ôl mewn awyren.

Ar waelod y brif stryd mae pont hynafol yn croesi Afon Mynwy; Pont gyda phorthdy ydy hi – yr unig un ym Mhrydain.

Mae’r fro ogwmpas y dref yn ardderchog hefyd gyda llawer o lwybrau cerdded gwahanol.

gan Eira Steggles