Nos Iau Ebrill 14, daeth criw o ddysgwyr Cymraeg Bro Llŷn ac Eifionydd i Goleg Meirion Dwyfor ym Mhwllheli.
Dyma'r tro cyntaf i noson S4C i ddysgwyr ymweld â'r ardal. Roedd cyfle i weld a chlywed am raglenni S4C dros y gwanwyn a hefyd i gael rhagflas o'r ddrama gyfres newydd Porthpenwaig sy wedi'i ffilmio yn ardal Aberdaron.
Roedd yr actor ifanc Tudur Lloyd Evans, sy'n chwarae Huw yn y ddrama, yn bresennol i siarad â dysgwyr am ei waith a'i fywyd yn tyfu i fyny yn ardal Llanystumdwy. Roedd y noson hefyd yn gyfle i'r dysgwyr gael cyflwyniad byw ar y we i wefan S4C i ddysgwyr ac ro'n nhw wrth eu bodd gyda'r ddarpariaeth.




