Gorffennaf 4-8 roedd criw Acen ar daith o gwmpas Cymru yn ymweld â 5 archfarchnad Tesco yn hyrwyddo gwasanaethau dysgwyr S4C a dysgu Cymraeg. Dechreuodd y daith ddydd Llun yn Hwlffordd ac o fan’na aethon ni i Benybont, Pontypridd a’r Trallwng, a gorffen ar y dydd Gwener yn Wrecsam. Roedd pob diwrnod yn gyfle i gwrdd â phobl wahanol a siarad â nhw am wefan dysgwyr S4C, isdeitlo a’r gyfres cariad@iaith. Roedd cyfle hefyd i siarad am ddysgu Cymraeg yn lleol a dosbarthu pecynnau o nwyddau dysgu Cymraeg. Diolch i bawb am eu croeso!




