Acen ar Faes yr Eisteddfod

Argraffu
PDF

sioned_rowlands_eisteddfod

Mae stondin Acen ym Maes D yn yr Eisteddfod Genedlaethol drwy’r wythnos. Yma mae cyfle i weld gwefan S4C i Ddysgwyr a gwefan newydd Acen, blasu (taste) cwrs dysgu Cymraeg newydd ar-lein a chael copi o’r cylchgrawn ‘Acen mewn print’ am ddim.

Roedd Sioned Rowlands (Byw yn yr Ardd) gyda ni ar ddydd Llun i ddangos sut i wneud pedwar trefniant (arrangement) blodau arbennig. Roedd cyfle hefyd i weld gwefan y dysgwyr ar sgrîn fawr a gofyn cwestiynau am y gwasanaeth. Mae Sioned wedi gadael pedwar trefniant ar stondin Acen, felly dewch i Maes D yn ystod yr wythnos i’w gweld nhw.

Add new comment