Bob mis Awst mae Cyngor Sir Gâr yn rhedeg ysgol haf i ddysgwyr yng Nghanolfan Griffith Jones, San Clêr. Dydd Mercher, 31 Awst roedd Acen yn San Clêr i gyfarfod â’r 60 o ddysgwyr oedd yno ac i siarad â nhw am wasanaethau S4C ac Acen i ddysgwyr. Roedd cyfle hefyd i roi copi am ddim o gylchgrawn Acen i bawb ar y cwrs. Diolch i Siân, y tiwtoriaid a’r dysgwyr i gyd am y croeso a’r bwffe blasus. Cofiwch ddefnyddio’r gwefannau ar ôl mynd adref ac ysgrifennwch aton ni!




