Cwpan Rygbi’r Byd: Cymru v Namibia

Argraffu
PDF

stephen_jonesFore Llun, 23 Medi roedd Cymru yn chwarae yn erbyn Namibia yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd yn Seland Newydd. Roedd yn bwysig i Gymru ennill y gêm yma ac ennill pwyntiau bonws hefyd.

Sgoriodd y canolwr Scott Williams dri chais a sgoriodd George North ddau gais. North ydy’r chwaraewr ifancaf erioed i sgorio cais yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd.

Hefyd sgoriodd Aled Brew, Toby Faletau, Gethin Jenkins, Jonathan Davies Lee Byrne ac Alun Wyn Jones gais yr un a sgoriodd Lloyd Williams ei gais cyntaf dros ei wlad.

Y sgôr ar ddiwedd y gêm oedd Cymru 81 Namibia 7. Enillodd Cymru 4 pwynt am ennill y gêm ac un pwynt bonws am sgorio 4 cais neu fwy. Llongyfarchiadau!

Bydd cyfle i weld y gêm eto heno am 18:30 ar S4C.

Dydd Sul 2 Hydref, bydd Cymru yn chwarae ei gêm olaf yn y grŵp yma yn erbyn Fiji am 05:30. Bydd cyfle i wylio’n fyw ar S4C neu wylio eto am 17:45

Add new comment