Rygbi: Cymru yn y Chwarteri

Argraffu
PDF

rygbi-byd-logo

03-10-2011

Mae tîm Rygbi Cymru drwodd i rownd y chwarteri yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd.

Yn gynnar fore Sul 2 Hydref, enillodd Cymru eu gêm yn erbyn Fiji o 66 pwynt i 0. Roedd yn bwysig i Gymru ennill y gêm yma, achos pan wnaeth Cymru golli yn erbyn Fiji yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2007 roedd  rhaid iddyn nhw adael y gystadleuaeth.

Sgoriodd Cymru 9 cais ac enillon nhw  1 pwynt bonws. Sgoriodd Jamie Roberts ddau gais a sgoriodd Scott Williams, George North, Sam Warburton, Lloyd Burns, Leigh Halfpenny, Lloyd Williams a Jonathan Davies un cais yr un. Roedd cicio Rhys Priestland a Stephen Jones yn wych hefyd a sgorion nhw bwyntiau gyda phob trosiad a chic gosb.

Yn rownd y chwarteri bydd Cymru’n chwarae yn erbyn Iwerddon. Bydd y gêm yn dechrau am 05:30 fore Sadwrn 8 Hydref;  bydd y gêm yn fyw ar S4C gyda chyfle arall i wylio am 17:00.

Llongyfarchiadau mawr i’r tîm.

Add new comment