
Nos Fawrth, Hydref 4 roedd tîm Acen yn y Met yn Abertyleri ar gyfer Noson Dysgwyr S4C. Ro’n ni yno i ddangos clip o raglenni’r hydref ar S4C, i siarad am wasanaethau isdeitlo S4C ac i ddangos gwefan S4C i ddysgwyr. Roedd yr actores Rhian Blythe – sy’n chwarae rhan Grug Matthews yn y gyfres ddrama Gwaith/Cartref – yno hefyd i siarad â’r dysgwyr ac i ateb eu cwestiynau nhw. Fel arfer, roedd cyfle i bawb gael bag ‘Calon Cenedl’ S4C a chopi am ddim o gylchgrawn Acen i ddysgwyr.
Roedd nifer dda o ddysgwyr brwd Blaenau Gwent wedi dod i’r noson a diolch iddyn nhw am eu croeso a’u hymateb. I dderbyn rhifyn Rhagfyr/Ionawr o ‘Acen mewn print’ neu’r fersiwn digidol, ‘Acen ar-lein’ bydd rhaid i chi danysgrifio!




