2 Gêm Bwysig Iawn

Argraffu
PDF

warbutonpel_droed

07-10-2011

Bydd tîm pêl-droed a thîm rygbi Cymru yn chwarae mewn gemau pwysig iawn dros y penwythnos.

Heno bydd tîm pêl droed Cymru yn chwarae yn erbyn y Swistir yng nghystadleuaeth Ewro 2012. Bydd y gêm yn Stadiwm Liberty, Abertawe yn dechrau am 7:30 heno. Yn 2010 collodd Cymru yn erbyn y Swistir o bedair gôl i un. Os bydd Cymru’n ennill yn erbyn y Swistir heno, hwn fydd y tro cyntaf ers 1951!. Capten y tîm heno fydd Aaron Ramsey. Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar S4C am 10:35, heno.

Bydd tîm rygbi Cymru yn chwarae yn rownd y chwarteri yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn erbyn Iwerddon. Os bydd Cymru’n ennill y gêm yma, hwn fydd y tro cyntaf i Gymru fynd ymlaen i’r rownd gynderfynol er 1987. Os byddan nhw’n ennill ddydd Sadwrn, byddan nhw’n chwarae yn erbyn Ffrainc neu Loegr. Bydd y gêm ar S4C am 06:00 bore fory.

Pob lwc i’r ddau dîm dros y penwythnos. Ymlaen Cymru!

Add new comment