

10-10-2011
Roedd e’n benwythnos llwyddiannus iawn i dim pêl droed Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2012 a thîm rygbi Cymru yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd.
Llwyddodd Cymru i guro Y Swistir o 2 - 0 yn Stadiwm Liberty nos Wener. Sgoriodd Aaron Ramsey a Gareth Bale gôl yr un.
Yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd, llwyddodd Cymru i gyrraedd y rownd gynderfynol am y tro cyntaf ers 1987. Curon nhw Iwerddon o 22 - 10. Sgoriodd Shane Williams, Mike Phillips a Jonathan Davies gais yr un a llwyddodd Rhys Priestland i gicio trosiad a dwy gic gosb. Bydd Cymru nawr yn chwarae Ffrainc yn y rownd gynderfynol.
Llongyfarchiadau i’r ddau dîm a phob lwc i dîm Rygbi Cymru yn y rownd gynderfynol.




