
Mae tîm rygbi Cymru wedi llwyddo i gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd am y tro cyntaf ers 1987. Byddan nhw’n chwarae yn erbyn Ffrainc fore dydd Sadwrn. Os bydd Cymru’n ennill y gêm yma, dyma’r tro cyntaf i’r tîm chwarae yn rownd derfynol y gystadleuaeth.
Yr unig newid sy i’r tîm wnaeth ennill yn erbyn Iwerddon ydy bydd James Hook yn chwarae yn safle’r maswr achos bod Rhys Priestland wedi anafu ei ysgwydd. Bydd Stephen Jones ar y fainc yn lle James Hook.
Ar ddydd Sul bydd Seland Newydd yn wynebu Awstralia. Yr wythnos nesa bydd y enillwyr y ddwy gêm yn chwarae yn erbyn ei gilydd yn y rownd derfynol. Bydd y ddau dim sy’n colli yn chwarae ei gilydd ddydd Gwener nesa i gystadlu am y trydydd safle yn y gystadleuaeth.
Bydd gêm Cymru yn fyw ar S4C am 8 o’r golch ar fore dydd Sadwrn.
Pob lwc i’r tîm!




