
17/10/2011
Ar ôl wythnos o gyffro a gobeithion mawr, siom oedd yn wynebu Cymru yn eu gêm yn erbyn Ffrainc yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd ddydd Sadwrn 15 Hydref. Yn dilyn tacl peryglus a cherdyn coch i gapten Cymru, Sam Warburton ar ôl dim ond 18 munud, roedd rhaid i Gymru chwarae gyda 14 dyn am weddill y gêm.
Ciciodd James Hook gôl yn gynnar yn y gêm a sgoriodd Mike Phillips unig gais y gêm. Roedd gobaith Cymru o ennill yn dal yn fyw tan y diwedd ond, yn anffodus, wnaeth cic gosb Leigh Halfpenny ddim cyrraedd y pyst. Mae’r ffaith bod Cymru wedi colli o dim ond un pwynt tra’n chwarae gyda dim ond 14 dyn yn dweud llawer am ysbryd a sgiliau’r tîm ifanc; mae hefyd yn gofyn cwestiynau am sgiliau’r Ffrancod! Mae pobl hefyd yn gofyn oedd penderfyniad y dyfarnwr, Alain Rolland yn iawn; a ddylai e fod wedi rhoi cerdyn melyn ac nid cerdyn coch i Warburton?
Bydd Cymru nawr yn chwarae yn erbyn Awstralia fore Gwener am y fedal efydd; Bydd Seland Newydd – a enillodd eu gem nhw yn erbyn Awstria o 20 pwynt i 6 – yn dysgu tric neu ddau i Ffrainc yn y ffeinal ddydd Sul! Bydd cyfle i wylio’r ddwy gêm yn fyw ar S4C.




