Y Fedal Efydd

Argraffu
PDF

shanesemi

20/10/2011

Bore fory bydd tîm rygbi Cymru yn chwarae eu gêm olaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2011 yn erbyn Awstralia. Dydy Cymru ddim wedi dod mor bell yn y gystadleuaeth er 1987; ro’n nhw’n chwarae yn erbyn Awstralia yn y gêm yna hefyd ac enillodd Cymru o 22 pwynt i 21. Bydd enillwyr y gêm yn derbyn y fedal efydd.

Capten y tîm Cymru yfory fydd Gethin Jenkins. Bydd Adam Jones a Rhys Priestland yn colli’r gêm achos anafiadau a fydd Sam Warburton ddim yn chwarae ar ôl cael y cerdyn coch yn y gêm yn erbyn Ffrainc y penwythnos diwethaf.

Pob lwc i’r dîm Cymru! Bydd y gêm yn fyw ar S4C o wyth o’r gloch bore yfory a bydd cyfle i wylio eto am 17:45.

Add new comment