Cwpan Rygbi’r Byd 2011

Argraffu
PDF

rygbi-byd-logo

24/10/2011

Siomedig iawn oedd canlyniad y gêm rhwng Cymru ac Awstralia ddydd Gwener diwethaf pan gollon ni o 18 pwynt i 21. Ond rhaid i ni longyfarch y tîm ar ddod yn bedwerydd yn y gystadleuaeth. Gobeithio y bydd Warren Gatland a’r tîm ifanc yma yn gallu adeiladu ar eu perfformiad a mynd ymlaen i ennill y Gamp Lawn yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad yn y flwyddyn newydd. Ac wrth gwrs, bydd cyfle arall i guro Awstralia yn y Stadiwm Cenedlaethol yng Nghaerdydd ar y trydydd o Ragfyr 2011.

Llongyfarchiadau mawr i Seland Newydd ar ennill Cwpan Rygbi’r Byd drwy guro Ffrainc o wyth pwynt i saith yn Eden Park, Auckland fore Sul. Dyma’r tro cyntaf i’r Kiwis ennill er 1987 pan ddechreuodd Cwpan Rygbi’r Byd.

Add new comment