
31/10/2011
Arfordir Cymru ydy arfordir gorau’r byd – dyma beth maen nhw’n ddweud yn ‘Lonely Planet’s Best in Travel 2012 Guide’. Wrth gwrs, dydy hyn ddim yn newydd i ni sy’n byw yng Nghymru, ond nawr mae’r byd yn gwybod!
Ym mis Mai 2012 bydd pobl yn gallu teithio ar hyd llwybr 1,4000 cilometr yr holl ffordd o gwmpas arfordir Cymru – o aber Afon Dyfrdwy yn y gogledd-ddwyrain i Gas-gwent yn y de-ddwyrain. Bydd y llwybr yma yn rhoi cyfle i bobl fwynhau pob math o olygfeydd – o draethau hir melyn a baeau bach tawel i glogwyni uchel ac aberoedd dramatig. Ac, yn naturiol, mae pob math o fywyd gwyllt i’w weld ar hyd y llwybr ac yn y môr gerllaw.
Ond does dim rhaid aros tan fis Mai nesaf i brofi arfordir Cymru achos mae llawer iawn o’r llwybr ar agor yn barod. Felly, ewch, bobl, ewch! A mwynhewch ein gwlad ar ei gorau!
Darllenwch fwy am yr arfordir – a hefyd ucheldir, afonydd a llynnoedd Cymru – ar ein gwefan.




