
11/11/2011
Y penwythnos yma, bydd pobl yn cofio am y rhai sy wedi marw mewn rhyfeloedd a gwrthdaro drwy’r byd. Dechreuodd yr arfer yma ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf; unarddeg o’r gloch ar fore Tachwedd 11eg 1918 oedd yr amser pan ddaeth y rhyfel yna i ben. Eleni, mae’r dyddiad yn un arbennig achos dyma 11-11-11-11. Yma ym Mhrydain mae’r pabi coch wedi dod yn symbol o’r bobl sy wedi marw ac sy’n dal i farw mewn rhyfeloedd a gwrthdaro.
Click here for a full translation of this news item in Welsh




