Protestwyr Cymru

Argraffu
PDF

pound symbolMae’r mudiad protest ‘Occupy’ wedi cyrraedd Cymru. Ar ôl wythnosau o brotestio ar draws y byd mewn llefydd fel Llundain, Washington a Rhufain, mae’r protestio yn erbyn byd bancio a busnes wedi dechrau yng Nghymru. 

Roedd grŵp bach o brotestwyr wedi bod yn gwersylla yng Nghastell Caerdydd ond roedd rhaid iddyn nhw symud ar ôl i’r heddlu arestio chwech o’r protestwyr. Nawr mae’r protestwyr wedi symud y gwersyll i’r tir tu allan i Transport House yn y brifddinas, cartref yr undeb Unite.

Mae grŵp o brotestwyr ‘Occupy’ yn trefnu protest ar gyfer Abertawe ddiwedd mis Tachwedd. Ac mae Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, wedi dweud basai e’n hapus i weld protestwyr yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Gyda’r sefyllfa economaidd yn mynd yn waeth mewn nifer o wledydd, sy nawr yn cynnwys Sbaen, ble bydd ‘Occupy’ yn protestio nesaf?

Comments  

 
0 # Rhys Wynne 2011-11-24 14:54
Dyma gofnod blog gan rhywun sy'n rhan o'r 'gwersyll' yng Nghaerdydd.
Reply | Reply with quote | Quote