
28/11/2011
Bu farw rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Gary Speed, ddoe yn 42 oed. Dyn ni’n cydymdeimlo gyda’i deulu a’i ffrindiau.
Roedd Gary Speed wedi rheoli tîm Cymru ers mis Rhagfyr diwethaf. Enillodd Cymru eu tair gêm bêl-droed ddiwethaf dan ei reolaeth. Cyn iddo fe ddod yn rheolwr Cymru roedd Gary Speed yn chwaraewr pêl-droed enwog iawn. Roedd e’n arfer chwarae i dimau fel Leeds United, Everton a Newcastle United. Roedd e hefyd wedi ennill 85 cap i Gymru.
Ers y newyddion am ei farwolaeth mae chwaraewyr enwog fel John Hartson, Ryan Giggs a David Beckham wedi talu teyrnged iddo.




