Noson Dysgwyr S4C yn Aberystwyth 28/02/11

Argraffu
PDF

 

Noson Dysgwyr S4C yn Aberystwyth 28/02/11

Llety Parc Aberystwyth, nos Lun 28ain Chwefror ac roedd dysgwyr Ceredigion wedi dod i fwynhau eu hunain. Ar ôl cyrraedd a sgwrsio dros baned roedd cyfle i ddysgu mwy am wasanaethau S4C, gan gynnwys gwefan y dysgwyr a’r gwasanaethau isdeitlo. Roedd cyfle hefyd i weld rhagflas o raglenni newydd S4C – Wyneb Glyndŵr, Ras yn Erbyn Amser 2, Porth Penwaig a Tudur Owen o’r Doc. Cyfle wedyn i Rhys ap William, sy’n un o gast y ddrama gyfres Alys, siarad am ei fywyd a’i yrfa. I gloi’r noson cafodd pawb gyfle i holi Rhys. Roedd hon yn noson lwyddiannus arall a phawb wedi mwynhau yn fawr. Am fwy o wybodaeth am wasanaethau a digwyddiadau S4C i ddysgwyr, ewch i s4c.co.uk/dysgwyr

 

mwy.....

 

 

Add new comment