Blog Acen
Sefydlwyd Acen ym 1989 gan S4C fel prosiect tymor byr i ddarparu cyngor ac adnoddau wrth gefn ar gyfer ‘Now You’re Talking’, cyfres ar gyfer dysgwyr a gynhyrchwyd gan Fflic i S4C. O’r dechreuad hwnnw daeth Acen yn gwmni annibynnol gyda statws elusen addysgol a’i nod o wasanaethu dysgwyr y Gymraeg.
Dros gyfnod o ugain mlynedd a mwy bu Acen wrthi’n creu adnoddau print ac amlgyfrwng ar gyfer dysgwyr o bob oed; bu hefyd yn arloesi ym myd hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle, isdeitlo Cymraeg a darpariaeth i ddysgwyr ar y teledu a’r we.
Y mae tymor i bob peth ac, ar 29ain Chwefror 2012, bydd tymor Cwmni Acen Cyf yn dod i ben. Fodd bynnag, bydd nifer o’r gwasanaethau y bu Acen yn eu datblygu a’u meithrin yn parhau yn nwylo nifer o staff presennol y cwmni. Bydd y tîm isdeitlo yn gweithredu bellach o dan enw Capsiwn; bydd ein tiwtoriaid yn darparu hyfforddiant iaith i’r gweithle o dan enw Ysgol Iaith Acen Cyf.; a bydd y gwaith ymgynghorol ar gyfer y teledu a’r we yn digwydd trwy gwmni Fflic, cynhyrchwyr HWB, y gwasanaeth newydd i ddysgwyr ar S4C.
Er bod tristwch wrth weld cyfnod mor gynhyrchiol yn dod i ben, rhaid ymfalchïo yn yr hyn a gyflawnwyd a dymuno’n dda i’r gwasanaethau a fydd yn parhau. Ac o gofio mai ar fwrdd llong y Waverley y lansiwyd Acen am, y tro cyntaf, priodol iawn yw dymuno “hwyl fawr” i bawb a fu’n rhan o’r daith dros y blynyddoedd – yn staff, addysgwyr ac, wrth gwrs, y dysgwyr eu hunain.




