Cyfrifiad 2011: Does dim blwch ‘Tipyn bach’

Argraffu
PDF
Cyhoeddwyd gan Rhys

Dylech chi fod wedi derbyn eich ffurflen Cyfrifiad 2011 trwy’r post erbyn hyn – fersiwn Cymraeg a fersiwn Saesneg os ydych yn byw yng Nghymru. Gallwch gwblhau’r cyfrifiad ar-lein, eto yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Mae un cwestiwn sydd ond yn ymddangos a y ffurflenni cyfrifiad yng Nghymru, sef cwestiwn 17:

17. A allwch ddeall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg? Ticiwch bob blwch sy’n berthnasol
[] Deall Cymraeg llafar
[] Siarad Cymraeg
[] Darllen Cymraeg
[] Ysgrifennu Cymraeg
[] Dim un o’r uchod

Mae’r cwestiwn yma yn gallu bod yn anodd i ddysgwyr, ac mae trafodaeth hir am y cwestiwn ar y blog yma (yn Saesneg) ac mewn erthygl yn y Western Mail (yn Saesneg).

Cofiwch, nid gofyn pa mor rhugl ydych chi mae’r cwestiwn, ond ydych chi’n gallu deall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg. Gallwch dicio mwy nag un blwch. Os ydych chi wedi darllen popeth hyd yma, yna dw i’n gobeithio byddwch o leiaf yn ticio’r blwch ‘Darllen Cymraeg’!

This post is also available in: English

Add new comment