Mae ‘Y Pethe’ (Y Pethau) yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio diwylliant Cymraeg, pethau fel canu cerdd-dant, dawnsio gwerin, barddoniaeth ac yn y blaen. Mae cyfres newydd o’r rhaglen Pethe wedi ailddechrau ar S4C rhai wythnosau’n ôl, ac ar raglen wythnos diwetha, roedd tair eitem am dri dysgwr, neu gyn-ddysgwyr dylwn ddweud, sydd nawr yn cyfrannu at y diwylliant Cymraeg yn eu ffyrdd gwahanol eu hunain.
Yn gyntaf, roedd Margaret Jones-Robinson o Gilwern, ger Y Fenni. Mae hi’n hoff iawn o farddoniaeth, ac wedi ennill sawl cadair eisteddfod, gan gynnwys Cadair y Dysgwyr, yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint yn 2007.
Yn ail, roedd Chris Cope o Gaerdydd. Dysgodd Chris Gymraeg cyn symud i Gymru o’r Unol Daleithiau, ac ers dod i fyw i Gaerdydd, mae wedi ennill gradd yn y Gymraeg ac wedi cyhoeddi llyfr o’r enw Cwrw am Ddim am ei brofiadau yn dysgu’r iaith ac yn symud i Gymru. Y dyddiau hyn, mae Chris yn creu cofnidioes Cymraeg (cofnodion ar ffurf fideos byrion) am ei fywyd bob dydd ac yn eu cyhoeddi ar y we. Dyma enghraifft o un ohonynt:
Yn olaf, Les Barker o Fwlch-gwyn, ger Wrecsam, ond sy’n wreiddiol o Fanceinion. Mae’n adnabyddus am ei farddoniaeth yn Saesneg, ac mae hefyd wedi dechrau cyhoeddi barddoniaeth yn Gymraeg. Mae Les hefyd wedi cyfieithu Enoc Huws, nofel Gymraeg enwog gan Daniel Owen, i’r Saesneg. Enw’r cyfieithiad ydy The Trials of Enoc Huws.
Mae Pethe ymlaen ar S4C pob nos Fawrth am 21:30 gyda isdeitlau Cymraeg a Saesneg. Mae gwefan a blog da iawn i gyd-fynd gyda’r rhaglen, ac mae clipiau fideo ychwanegol yno hefyd.
This post is also available in: English





