Ebrill 19, 2011
Er i fudiad CYD (Cymdeithas y Dysgwyr) ddod i ben yn swyddogol yn 2008, mae llawer o grwpiau lleol yn cwrdd ble mae dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn cwrdd i sgwrsio. Draw ar flog Clwb Malu Cachu, mae Carl yn nodi bod gan wefan newyddion Golwg360 adran arbennig ar eu calendr yn rhestru digwyddiadau dysgwyr. Mae yna hefyd galendr cynhwysfawr iawn ar wefan SaySomethingInWelsh, sy’n rhestru digwyddiadau rheolaidd ar draws Cymru.
Wrth gwrs, mae digwyddiadau dysgwyr yn tueddu i ddenu dysgwyr yn unig (ac efallai un neu ddau diwtor), dyna pam dw i’n hoffi gwefan dysgu.com. Dyma gylchlythyr wythnosolish ar gyfer Cymraeg i Oedolion Aberteifi a’r Cylch. Nid dim ond digwyddiadau ‘dysgwyr’ sy’n cael eu rhestru, ond hefyd digwyddiadau Cymraeg eraill yn yr ardal sy’n addas i ddysgwyr – defnyddiol os byddwch yn trefnu gwyliau yn yr ardal yn y dyfodol!
Mae sawl lle arall ar y we i ddod o hyd i ddigwyddiadau Cymraeg, fel digwyddiadur Radio Cymru, lleol.net a gwefannau y Mentrau Iaith.
Pa fath o ddigwyddiadau ydych chi’n mynychu i ymarfer eich Cymraeg a sut ydych chi’n dod i wybod amdanynt?
This post is also available in: English



