Gwyliau Cymraeg

Argraffu
PDF
Cyhoeddwyd gan Rhys

Gwyliau yw’r gair Cymraeg am holidays, ond hefyd, dyna yw’r gair Cymraeg am festivals (y lluosog ‘gŵyl’). Mae’n siwr bod pawb wedi clywed am yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, ond mae nifer o wyliau llai, ble mae’r perfformwyr yn perfformio’n Gymraeg a ble mae’r mwyafrif o’r gynulleidfa hefyd yn siarad Cymraeg.

Dyma rai ohonyn nhw:

Mehefin
Hyd at y 25ain – Gŵyl Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Amrywiol (Llanbedr Pont Steffan, Caerfyrddin a Llandeilo) [Cerddoriaeth, theatr, celf a llenyddiaeth]
1af i’r 4ydd Tyrfe Tawe, Abertawe [Cerddoriaeth]
17eg a 18fed – Gŵyl Nôl a Mla’n, Llangrannog, Ceredigion [Cerddoriaeth]
17eg i’r 19eg – Bedroc, Beddllwynog, Merthyr Tudfil [Cerddoriaeth]
17eg i’r 19eg – Gŵyl Ifan, Caerdydd [Dawnsio Gwerin]

Gorffennaf
1af a’r 2ail – Gŵyl Bro Dinefwr, Cil-y-cwm, Sir Gaerfyrddin [Cerddoriaeth]

4ydd i'r 10fed -Eisteddfod Gerddorol Gydwladol Llangollen. Llangoelln, Sir Ddinbych [Cerddoriaeth]]

15fed i’r 17eg – Gŵyl Arall, Caernarfon, Gwynedd [Llenyddiaeth, cerddoriaeth, celf a ffilm]
15fed i’r 23ain – Sesiwn Fawr, Dolgellau, Gwynedd [Cerddoriaeth]
22ain i’r 24ain – Gŵyl Gardd Goll, Y Faenol, ger Bangor, Gwynedd [Cerddoriaeth]

Awst
25ain i’r 28ain – Chwilgig, Chwilog, Gwynedd [Cerddoriaeth]

Tachwedd
I’w gadarnhau – Llanast Llanrwst. Llanrwst, Conwy [Cerddoriaeth, steddfod dafarn, ffilm, chwaraeon] (manylion 2010)


View Gwyliau Cymraeg 2011 in a larger map

Ydych chi’n bwriadu mynd i un o’r rhain, neu ydw i wedi anghofio gŵyl Gymraeg bwysig? Gadewch i mi wybod yn y blwch sylwadau.

This post is also available in: English

Add new comment