Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni, o’r 30ain o Orffennaf hyd at y 6ed o Awst.
Mae llawer iawn, iawn o bethau i’w gwneud yn ystod yr Eisteddfod. Os nad ydych wedi bod i’r eisteddfod o’r blaen, dyma Catchphrase’s Eisteddfod Guide gan y BBC.
Mae’n syniad da ceisio cynllunio o flaen llaw, a cheisio penderfynu beth rydych chi eisiau ei wneud a gweld. Ond cofiwch adael digon o amser i grwydro o gwmpas y stondinau
Mae rhestr o’r digwyddiadau swyddogol ar wefan yr Eisteddfod, ac mae yna adran digwyddiadau da iawn ar is-wefan yr Eisteddfod gan y BBC hefyd. Ffordd dda i ddod i wybod am ddigwyddiadau llai yw drwy chiwlio am y gair ‘eisteddfod’ ar Twitter neu gweld pwy sy’n defnyddio’r hashtag swyddogol - #steddfod2011.
ACEN yn yr Eisteddfod
Bydd tîm Acen ym Maes D bob dydd yn dangos gwefan newydd Acen a gwefan S4C, felly dewch i ddweud helo. Bydd pobl ifanc tîm ‘Yma i Helpu’ o gwmpas y Maes hefyd; felly, os dych chi eisiau help, chwiliwch am y bobl mewn crysau T coch.

Tips Rhys ar gyfer yr wythnos
Dydd Sadwrn: Cystadleuaeth y bandiau pres, Y Pafiliwn am 10:00
Dydd Sul: Ffantasmagoria (Drama gan ddisgyblion uwchradd lleol, Ysgol Morgan Llwyd), Theatr y Maes am 15:30
Dydd Llun: Hacio’r Iaith (Recordio podlediad, gweithdai blogio a golygu Wicipedia), Stondin Prifysgol Aberystwyth am 13:30
Dydd Mawrth: Fflur Dafydd (cerddoriaeth acwstig), Llwyfan Perfformio Bach am 14:00
Bore Mercher: Dysgwyr - dewch draw (Cwrs i ddysgwyr da sydd eisiau cychwyn ysgrifennu neu farddoni yn y Gymraeg), Cefnlen am 9:30
Prynhawn Mercher: Neil Wyn Jones a Jonathan Simcock – Dysgu y tu allan i Gymru, Maes D am 15:30
Nos Iau: Mr Huw, Twmffat a mwy (noson o gerddoriaeth electronica) - Caffi Yales - Gorsaf Ganolog Wrecsam am 20:00
Dydd Gwener: Ed Fisher a Pol Wong – Tai Chi a Kung Fu, Maes D am 15:00
Prynhawn a nos Sadwrn: Gwrando ar y corau meibion yn canu dros beint, wrth un o'r bariau ar y Maes ar ôl y cystadlu




