
Yr wythnos diwetha, roedd cyfarfod cyhoeddus yn Wrecsam yn adeilad hen dafarn o'r enw'r Saith Seren, er mwyn trafod y syniad o agor canolfan gymunedol Cymraeg ar gyfer y dref. Bydd yn cael ei redeg gan fudiad gwirfoddol (voluntary organisation) o'r enw Canolfan Gymraeg Wrecsam Cyfyngedig. Yn gyntaf, mae'n rhaid codi arian. Os byddan nhw'n codi digon o arian, maen nhw'n gobeithio agor bar, caffi ac efallai bragdy bach! Bydd yna hefyd ystafelloedd ar gyfer gwersi Cymraeg.
Mae yna ganolfannau Cymraeg cymunedol eraill yng Nghymru, i gyd yn y de - Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, Clwb y Bont ym Mhontypridd a Tŷ Tawe yn Abertawe.
Pob lwc i Saith Seren. Os ydych eisiau gwybod mwy, ewch i'w gwefan, neu beth am brynu cyfrandaliadau (shares)!




