Ar hyn o bryd, mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnal Lolfa Lên mewn hen siop goffi yng nghanolfan siopa Dewi Sant, Caerdydd. Mae'r Lolfa ar agor yn ystod mis Hydref yn unig, gyda llawer o ddigwyddiadau gwahanol. Mae digwyddiad yn arbennig ar gyfer dysgwyr fore dydd Mawrth, 25 Hydref:
DYDD MAWRTH 25 HYDREF rhwng 11.00 am a 12.00 pm
Bore i ddysgwyr gyda Heather Jones yn sgwrsio am ei hunangofiant Gwrando ar fy nghân (Dref Wen, 2007)
Digwyddiad wedi ei drefnu ar y cyd â Menter Caerdydd
Digwyddiad am ddim, croeso i bawb.
Mae Heather Jones yn gantores a gafodd ei geni yng Nghaerdydd. Canodd hi gân enwog o'r enw 'Colli Iaith' yn 1971. Roedd eitem ar raglen Pethe yn ddiweddar, achos mae 40 mlynedd ers rhyddhau y sengl 'Colli Iaith'.
Y bardd Harri Webb ysgrifennodd y geiriau, a gallwch glywed rhywun yn adrodd y geiriau yma.
Mae mwy o hanes Heather ar wefan BBC Cymru.
Gallwch brynu CD Goreuon Heather Jones yn Siop Acen.




