Cwis Tafarn Pwyllgor y Dysgwyr 25.11.11

Argraffu
PDF

Pob tro mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld ag ardal, mae pwyllgorau lleol yn cael eu trefnu i godi arian. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg yn 2012 ac mae pobl yn codi arian ar hyn o bryd. Nos yfory (y 25ain o Dachwedd), mae'r Pwyllgor Dysgwyr lleol yn trefnu cwis.

Dyma'r manylion:

25 Tachwedd: Cwis Tafarn wedi’i gyflwyno gan Bwyllgor y Dysgwyr yn Nhafarn y Glenbrook, Dobbins Rd, Y Barri. Cwis i gychwyn am 7.30 yh. Mynediad i’r cwis yn £2 y person. Croeso cynnes i bawb - dewch yn dîm o 4 neu ymunwch â thîm ar y noson.  I archebu’ch lle cysylltwch â Gwennol – 0845 4090 300 / Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Add new comment