Dydd Mercher 30 Tachwedd oedd diwrnod y streic fawr ym Mhrydain. Roedd miloedd o weithwyr yn y sector cyhoeddus wedi penderfynu mynd ar streic achos maen nhw'n anhapus gyda beth mae'r Llywodraeth yn Llundain eisiau gwneud gyda'u pensiynau.
O'ch chi'n un o'r rhai oedd ar streic ddoe? Oedd rhaid i chi gymryd diwrnod o wyliau i edrych ar ôl y plant achos roedd yr athrawon ar streic? Dych chi'n cytuno gyda'r gweithwyr oedd ar streic neu gyda'r Llywodraeth?
Ac mae Jeremy Clarkson wedi dweud ar raglen The One Show ar y BBC neithiwr basai e'n hoffi gweld y streicwyr yn cael eu saethu (being shot) o flaen ey teuluoedd! Dych chi'n cytuno neu'n anghytuno gyda Mr Clarkson? Neu dych chi'n meddwl bod Jeremy Clarkson wedi colli'r plot?!




