" Blwyddyn newydd dda i chi
Ac i bawb sy yn y tŷ -
Dyna ein dymuniad ni:
Blwyddyn newydd dda i chi! "
Dyna'r geiriau roedd pobl yn arfer eu canu ar ddechrau'r flwyddyn newydd wrth fynd o gwmpas gyda'r Fari Lwyd neu'r Cwpan Gwaseil. Roedd plant hefyd yn arfer mynd o gwmpas y tai yn gofyn am galennig - ceiniog neu ddwy fel arfer.
Heddiw, mae'r hen arferion (customs) wedi mynd. A faint o blant heddiw fasai'n hapus i dderbyn dim ond ceiniog neu ddwy, tybed?!
Faint o weithiau dych chi wedi dymuno "Blwyddyn Newydd Dda" erbyn hyn? A chofiwch, blwyddyn newydd dda dyn ni'n ddweud yn y Gymraeg, dim blwyddyn newydd hapus.
Mae'r "proffwydi gwae" (prophets of gloom) yn dweud bydd 2012 yn flwyddyn ddrwg eto i'r economi; ond maen nhw bob amser yn hapus i siarad am newyddion drwg! Ac os dych chi'n credu calendr y Maya, bydd y byd yn dod i ben yn 2012!
Ydy, mae'n Ionawr 2012 ac mae hi'n flwyddyn newydd; gobeithio bydd hi'n flwyddyn dda i chi.




