Mae ffrae fawr ar hyn o bryd rhwng Llywodraeth (Government) yr Alban a Llywodraeth San Steffan am refferendum ar annibyniaeth (independence) i'r Alban.
Mae Llywodraeth yr Alban eisiau dewis pryd i gael y refferendwm a pha gwestiynau i'w gofyn. Maen nhw eisiau i bobl yr Alban gael dewis Ie neu Na dros annibyniaeth; ond maen nhw hefyd eisiau i bobl gael dewis cael mwy o bwerau fel opsiwn arall. Syniad da a dewis clir?
Na, meddai David Cameron a Llywodraeth San Steffan. Llundain sy'n penderfynu pryd bydd y refferendwm a beth fydd y dewis. Mae Llundain eisiau i'r dewis fod yn un syml: Ie dros annibyniaeth neu Na yn erbyn annibyniaeth.
Pwy sy'n iawn? Beth sy'n bwysig ydy fod pobl yr Alban yn cael dewis beth maen nhw eisiau. Os dyn nhw eisiau annibyniaeth neu os dyn ddim nhw ddim eisiau annibyniaeth - eu dewis nhw ydy e. Ac os dyn nhw eisiau mwy o bwerau heb annibyniaeth iawn, mae'n bwysig iddyn nhw gael y cyfle i ddweud hynny hefyd.
Tasai'r ffrae am Gymru, fasech chi ddim eisiau'r un dewis?




